Gofyn am addasiadau i’ch helpu gyda’ch anabledd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n rhentu’ch cartref neu os ydych chi’n chwilio am rywle i’w rentu, efallai y bydd gennych chi hawl i newidiadau a fydd yn eich helpu i fyw yno gyda’ch anabledd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn galw’r newidiadau hyn yn ‘addasiadau rhesymol’.

Gall addasiadau rhesymol fod yn newidiadau i bolisïau, arferion neu delerau'ch cytundeb. Maen nhw hefyd yn gallu golygu darparu cyfarpar neu gymorth ychwanegol - mae’r gyfraith yn galw hyn yn gymhorthion ategol. Mae’r gyfraith yn dweud nad oes yn rhaid i berson wneud unrhyw beth a fyddai’n golygu cael gwared ar neu addasu nodwedd ffisegol. Hefyd, nid oes raid iddynt wneud unrhyw newidiadau i rannau cyffredin.

Mae’r gyfraith yn eich gwarchod os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • tenant neu is-denant

  • lesddaliwr

  • rhan o gyfunddaliad

Mae'n gwarchod pobl sy’n byw gyda chi hefyd.

Os oes yn rhaid gwneud y newidiadau, mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol’. Mae’n cael ei thrafod yn adran 20, 21 a 36 ac Atodlenni 4 a 5 Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd y ddyletswydd ond yn gymwys i chi os oes gennych chi anabledd dan adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Edrychwch i weld a ydych chi’n anabl dan y Ddeddf Cydraddoldeb os nad ydych chi’n siŵr.

Nid oes dyletswydd i wneud ‘addasiadau rhesymol’ ym mhob sefyllfa. Mae angen i chi ystyried:

  • a yw’r ddyletswydd yn berthnasol i'r person rydych chi am iddo wneud yr addasiad – mae rhai eithriadau

  • pa addasiadau sydd angen i chi eu gwneud ac a ydynt wedi’u cynnwys yn y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

  • os ydych chi’n gallu gwneud y newidiadau eich hun neu sut i ofyn amdanynt

  • beth i’w wneud os nad ydynt yn gwneud y newidiadau neu'n ceisio eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn amdanynt

Gweld pwy sy’n gorfod gwneud addasiadau

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol i unrhyw un sy’n rheoli neu osod yr eiddo. Yr enw ar hyn yw bod yn ‘rheolydd’ yr eiddo – fel arfer eich landlord neu unrhyw un sydd â rheolaeth ymarferol dros sut mae’r eiddo yn cael ei osod neu ei reoli.

Gallai rheolyddion eiddo gynnwys cwmnïau rheoli eiddo a gwerthwyr tai hefyd.

Mae gan gymdeithas cyd-ddeiliaid sy’n rheoli uned cyfunddaliad ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol hefyd.

Mae adran 36 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod pwy allwch chi gymryd camau yn eu herbyn. Ar hyn o bryd, nid yw’r gyfraith yn cynnwys cymryd camau yn erbyn person sy’n gyfrifol am rannau cyffredin.

Nid yw’n ddyletswydd ar bawb sy’n rheoli neu osod yr eiddo i wneud addasiadau rhesymol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond yn gorfod gwneud addasiadau os ydych chi’n gofyn iddynt wneud ac os ydynt yn rhesymol.

Os ydynt yn methu gwneud addasiad rhesymol, mae’n wahaniaethu o dan adran 21 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Efallai y byddwch yn gallu cael yr addasiadau sydd eu hangen arnoch chi drwy wneud cwyn neu gymryd camau cyfreithiol.

Os yw’n ddyletswydd ar y landlord, rheolwr eiddo neu reolydd i wneud addasiadau, dylent dalu costau cydymffurfio â’r ddyletswydd - ni ddylent ofyn i chi dalu neu ychwanegu’r gost at eich rhent neu dâl gwasanaeth.

Gweld beth allwch chi ofyn amdano

Efallai y bydd yn rhaid i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wneud addasiadau ar eich cyfer chi os ydych chi dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl heb anabledd oherwydd:

  • rheol, arfer neu ffordd o wneud pethau – mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ddarpariaeth, maen prawf neu arfer’

  • diffyg cyfarpar, cymhorthion neu wasanaethau ychwanegol – mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘gymhorthyn ategol’

Y gofynion hyn yw gofyniad cyntaf a thrydydd gofyniad y ddyletswydd addasiadau rhesymol ac maent i'w gweld hyn adrannau 20(3) a 20(5) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallai ‘darpariaeth, maen prawf neu arfer’ gynnwys un o delerau'ch cytundeb tenantiaeth neu ffordd y mae’ch landlord yn gwneud pethau - fel pryd neu sut mae'n casglu’r rhent.

Gallai ‘cymhorthyn ategol’ gynnwys gofyn i’ch landlord, rheolwr eiddo neu reolydd newid rhai nodweddion yn y cartref er mwyn ei gwneud yn haws i chi fyw yno gyda’ch anabledd.

Nid oes yn rhaid iddo wneud rhywbeth a fyddai’n golygu cael gwared ar neu newid nodwedd ffisegol. Nid yw eitemau penodol sy'n gallu cael eu symud fel dodrefn, celfi, deunyddiau neu gyfarpar yn nodweddion ffisegol.

Nid yw’r canlynol yn newidiadau i nodweddion ffisegol:

  • newid neu ddarparu arwyddion neu hysbysiadau

  • newid tapiau neu handlenni drws

  • newid, darparu neu addasu cloch y drws neu system dod i mewn drwy’r drws

  • newid lliw wal, drws neu unrhyw arwyneb arall

Mae’r rheolau llawn am nodweddion ffisegol yn Atodlen 4, paragraff 2 (9) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd rhaid i'r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ddarparu gwybodaeth ar ffurf hygyrch, er enghraifft cyfieithu copi o’ch cytundeb tenantiaeth i Braille os oes gennych chi nam ar y golwg.

Os ydych chi angen gwneud addasiadau i nodweddion ffisegol yn eich cartref

Mae’r ddyletswydd addasiadau rhesymol ond yn cynnwys newidiadau penodol yn eich cartref. Nid yw’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i’ch landlord newid neu gael gwared ar ‘nodweddion ffisegol’, er enghraifft newidiadau strwythurol, dymchwel waliau, lledu drysau neu osod rampiau parhaol.

Os ydych chi angen newid un o’r pethau hyn, efallai y byddwch yn gallu defnyddio ffyrdd eraill er mwyn i welliannau gael eu gwneud.

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud gwelliannau sydd eu hangen i’ch helpu gyda’ch anabledd os ydych chi’n denant neu’n lesddaliwr. Edrychwch ar eich cytundeb i weld a yw’n dweud eich bod yn gallu gwneud gwelliannau gyda chysyniad eich landlord. Ni fyddwch yn gallu os oes gennych chi:

  • denantiaeth warchodedig o dan Ddeddf Rhent 1977

  • tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhent 1977

  • tenantiaeth ddiogel – tenant cyngor fel arfer

Mae gwelliannau'n cynnwys:

  • ychwanegu neu newid gosodiadau a ffitiadau

  • ychwanegu neu newid rhywbeth sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i’r eiddo

  • gosod erial diwifr neu deledu

  • gwneud gwaith addurno allanol

Ni ddylai’r landlord wrthod rhoi caniatâd yn afresymol. Os yw'n gwneud hynny a’ch bod chi'n lesddaliwr, holwch am gyngor.

Mae’r rheolau hyn yn cael eu trafod yn adran 190 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Darllenwch fwy am gael addasiadau wedi'u gwneud yng nghanllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o denantiaeth sydd gennych, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Gweld a yw’ch anfantais yn ‘sylweddol’ o gymharu â phobl sydd ddim yn anabl

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi ddangos bod eich mwynhad o’r eiddo neu’r defnydd o fudd neu gyfleuster rydych chi’n ei gael o dan eich tenantiaeth yn cael ei effeithio. Er enghraifft, gallu mynd at a defnyddio garej sydd hefyd yn cael ei gosod gyda’r eiddo, neu allu byw yn yr eiddo yn gyfforddus heb ymyrraeth.

Yna, bydd angen i chi ddangos eich bod dan ‘anfantais sylweddol’ cyn bod rhaid i'r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wneud unrhyw addasiadau. Mae hyn yn golygu cael eich effeithio mewn ffordd sy’n fwy na ‘mân neu ddibwys’.

Er enghraifft, os yw rheol nad yw tenantiaid yn cael cadw sgwteri symudedd yn eu cartrefi yn achosi problem i rywun sy’n dibynnu ar ddefnyddio un, ond eu bod yn gallu ei gyrraedd yn hawdd gan fod lle iddo y tu allan i’r drws ffrynt, efallai y bydd yn effaith mor fân fel na fydd angen addasiad arno.

Fodd bynnag, os nad oes lle i’w gadw ger y cartref a bod y tenant yn cael anhawster ei gyrraedd, gallai fod yn effaith mwy na ‘mân neu ddibwys’.

Bydd angen i chi ddangos na fyddai rhywun heb anabledd yn cael ei effeithio, neu y byddai'n cael ei effeithio i raddau llai na chi, gan y rheol benodol neu ddiffyg cyfarpar neu gymorth.

Mae hyn yn adran 20(3) a 20(5) ac Atodlen 4, paragraff 2(5) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gweld a yw'n gwybod pa addasiadau sydd eu hangen arnoch chi

Mae’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol os ydych chi wedi gofyn iddo am addasiadau. Mae’n bwysig eich bod yn glir am ba addasiadau rydych chi eu heisiau a pham y byddant yn eich helpu. Mae’n syniad da cadw cofnod o’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano rhag ofn y byddwch ei angen maes o law.

Penderfynu pa addasiadau sydd eu hangen arnoch chi

Nid oes yn rhaid i chi ddweud pa addasiadau sydd eu hangen arnoch ond byddai’n syniad da meddwl am beth fyddai’n eich helpu a sut byddai’n eich helpu. Gallech siarad â’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall i weld a oes ganddynt unrhyw syniadau am beth fyddai’n eich helpu i fyw yn y cartref.

Meddyliwch a yw’ch cais yn ‘rhesymol’

Mae’n rhaid i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond cymryd camau rhesymol i osgoi eich rhoi dan anfantais, neu ddarparu cymhorthyn os ydych chi angen un.

Nid oes diffiniad o beth sy’n rhesymol ond bydd yn dibynnu ar lawer o ffactorau fel pa mor hawdd fyddai gwneud yr addasiad. Gallai hefyd gynnwys adnoddau’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd. Er enghraifft, byddai disgwyl i landlord gyda sawl eiddo wneud mwy na landlord sydd ag un eiddo.

Dylech hefyd ystyried:

  • a fyddai addasiad penodol yn atal yr anfantais honno i chi - po fwyaf tebygol ydyw o wneud hynny, po fwyaf tebygol ydyw o fod yn rhesymol

  • pa mor hir rydych chi’n debygol o fod yn yr eiddo o gymharu â chost ac anghyfleusrtra'r addasiad

  • y gost – efallai y bydd awdurdod lleol yn gallu gwario mwy na landlord preifat sydd â dim ond un eiddo

  • pa mor anodd fydd hi i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wneud yr addasiad

  • pa mor anodd fydd dadwneud yr addasiad pan fyddwch chi’n gadael y cartref

Gofyn i’ch landlord neu reolwr eiddo am addasiadau

Ar ôl i chi wneud cais am addasiadau rhesymol, mae’n ddyletswydd ar eich landlord, rheolwr eiddo neu reolydd i wneud yr addasiadau hynny. Os nad ydych chi wedi gofyn am yr addasiad rhesymol eto, dylech ofyn. Gofalwch fod eich cais yn gwrtais ac yn fuddiol – rydych chi’n ceisio dod o hyd i’r ateb gorau gyda’ch gilydd.

Os ydych chi’n gofyn am addasiadau

Gofalwch eich bod yn dweud wrth y landlord, rheolwr eiddo neu reolydd am eich anabledd a sut mae'n effeithio arnoch chi yn eich cartref.

Os nad yw’r addasiadau wedi’u gwneud a'ch bod eisiau mynd â'r mater ymhellach

Mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod chi - neu rywun ar eich rhan - wedi gwneud cais i gymryd camau i osgoi’r anfantais neu ddarparu'r cymhorthyn ategol.

Mae’n syniad da egluro yn eich cais sut rydych chi’n bodloni’r diffiniad o anabledd yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd hyn yn osgoi’r risg y bydd yn dweud nad oes yn rhaid iddo wneud addasiadau rhesymol oherwydd nad ydych chi’n cael eich gwarchod gan y Ddeddf.

Penderfynu sut i wneud eich cais

Yn aml, mae’n syniad da gwneud cais anffurfiol yn y lle cyntaf, ac yna gwneud un ffurfiol os nad yw hynny’n gweithio. Ond mewn rhai achosion, efallai mai'r peth gorau fyddai gwneud cais ffurfiol yn syth.

Wrth benderfynu a ddylech chi wneud cais ffurfiol neu anffurfiol gyntaf, dylech feddwl am:

  • bwy rydych chi’n gofyn iddynt wneud addasiadau

  • pa hawliau sydd gennych chi i aros yn y cartref a’r risg y gallech chi gael eich troi allan am wneud y cais - fel os ydych chi’n denant byrddaliad sicr neu’n denant cyngor

  • eich perthynas ar hyn o bryd ac yn y dyfodol gyda’r person rydych chi’n gofyn iddo

  • a ydych chi wedi crybwyll y broblem o’r blaen

Efallai y bydd angen i chi ysgrifennu llythyr mwy ffurfiol os yw un neu fwy o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi eisoes wedi siarad gyda’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond heb lwyddiant

  • rydych chi angen i’r addasiadau gael eu gwneud ar unwaith

  • rydych chi’n gofyn i sefydliad mawr sydd wedi arfer ymdrin â cheisiadau o’r fath – fel cyngor lleol

Os ydych chi am wneud yr addasiadau eich hun

Mae a allwch chi wneud yr addasiadau eich hun yn dibynnu ar yr hyn y mae’ch prydles neu gytundeb tenantiaeth yn ei ddweud.

Os nad oes addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar ôl eich cais

Os yw’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd yn gwrthod eich cais heb reswm da neu os nad yw'n gwneud yr addasiadau yn ôl ei addewid, gallwch gymryd camau yn ei erbyn.

Os yw'n dweud nad yw'n gallu gwneud yr addasiad oherwydd bod tun o delerau ei denantiaeth ei hun sy’n dweud nad yw'n gallu gwneud newidiadau yna gallech ofyn iddo gael cydsyniad ysgrifenedig gan ei landlord ei hun i adael iddo wneud y newid hwnnw. Trafodir hyn yn Atodlen 21 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad yw'n ymateb i'ch cais o gwbl, mae’r un peth â gwrthod gwneud yr addasiad. Bydd angen i chi benderfynu beth i'w wneud am y gwahaniaethu.

Os yw’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wedi methu gwneud addasiadau rhesymol a’ch bod am gymryd camau cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu, mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn 6 mis llai un diwrnod.

Mae’n bwysig gwybod pryd mae’r cyfnod amser yn dechrau fel eich bod yn gwybod faint sydd gennych chi i ddechrau cymryd camau cyfreithiol. Fel arfer, mae’r terfyn amser yn dechrau pan fydd yn penderfynu peidio â gwneud addasiadau rhesymol.

Os nad yw wedi dod i benderfyniad, mae’r terfyn amser yn dechrau ar ôl iddo gael cyfnod rhesymol i gydymffurfio â’i ddyletswydd. Os nad ydych yn siŵr os yw’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wedi penderfynu neu ddyddiad y penderfyniad, gallai fod yn syniad gwell cyfrif y terfyn amser o’r dyddiad i chi wneud eich cais. Bydd hyn yn golygu y byddwch chi o fewn y terfyn amser.

Gallech wneud hawliad hwyr os yw’r llys yn credu bod hynny’n deg - bod yn ‘deg a chyfiawn’ yw'r enw ar hyn. Efallai y byddant yn ystyried pethau fel y rheswm am yr oedi, hyd yr oedi ac effaith yr hawliad hwyr ar yr ochr arall.

Ni ddylech ddibynnu ar hyn gan y gallai’r llys benderfynu peidio â gadael i chi wneud hawliad hwyr. Gweithredwch ar unwaith gan y bydd hyn yn rhoi ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y llys yn derbyn eich hawliad. Gweld beth i'w wneud os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau..

Mae pŵer y llys i ganiatáu hawliad hwyr yn adran 118 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mewn rhai achosion, os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau, gallech ofyn am yr addasiad unwaith eto, gan egluro pam eich bod angen yr addasiad o hyd ac unrhyw newid mewn amgylchiadau – ni fydd yn rhoi dyddiad cau newydd i chi ond gallai sbarduno’r ochr arall i wneud yr addasiad.

Os yw’ch landlord yn ceisio eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am addasiadau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eich gwarchod os yw’ch landlord yn ceisio’ch troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am addasiadau - ‘erledigaeth’ yw'r enw ar hyn ac mae wedi’i gynnwys yn adran 27. Darllenwch fwy am beth i'w wneud os yw'ch landlord wedi ceisio'ch troi allan a chael cyngor ar wahaniaethu.

Amddiffyn penderfyniad i’ch troi allan pan nad yw’ch landlord wedi gwneud addasiadau rhesymol

Dylech feddwl a yw’r landlord wedi methu gwneud addasiadau rhesymol ar ôl i chi ofyn amdanynt. Efallai y byddwch yn gallu defnyddio methiant y landlord i wneud addasiadau rhesymol i amddiffyn y penderfyniad i’ch troi allan.

Gallai methiant y landlord i wneud addasiadau rhesymol eich helpu i amddiffyn penderfyniad i’ch troi allan os yw’r rheswm am eich troi allan:

  • yn gysylltiedig ag addasiad rhesymol

  • yn ôl-ddyledion rhent ond gallwch leihau'r swm sy'n ddyledus oherwydd na wnaed addasiad rhesymol drwy gael iawndal

Darllenwch fwy am beth i'w wneud os yw'ch landlord wedi ceisio'ch troi allan a chael cyngor ar wahaniaethu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019