Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch mewn perthynas â thai

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Aflonyddu yw pan fo rhywun yn creu awyrgylch sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus - gan eich tramgwyddo, eich dychryn, neu’ch bychanu o bosibl. 

Os yw rhywun fel eich landlord neu werthwr eiddo yn aflonyddu arnoch, gallai fod yn wahaniaethu.

Efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau i atal yr aflonyddu. Efallai y byddwch chi'n gallu cael iawndal hefyd.

Mae’r gyfraith sy’n eich amddiffyn rhag aflonyddu ym maes tai o dan adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallai fod yn achos o aflonyddu os oes rhywun yn:

  • eich cam-drin ar lafar

  • gofyn cwestiynau personol iawn i chi, er enghraifft am eich anabledd neu grefydd

  • gosod posteri sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus

  • gwneud ystumiau corfforol neu dynnu wynebau anfoesgar tuag atoch

  • dweud jôcs o natur rywiol

  • gwneud sylwadau sy’n eich tramgwyddo, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol

Os yw’r aflonyddu yn ddifrifol iawn, gallai fod yn drosedd hefyd. Er enghraifft, mae’n drosedd os oes rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnoch chi neu wedi’ch bygwth yn gorfforol.

Os nad yw eich problem aflonyddu yn ymwneud â’ch cartref neu gartref rydych chi’n ceisio ei rentu neu ei brynu, dylech gymryd camau mewn ffordd wahanol.

Gweld beth sy'n aflonyddu o dan gyfraith wahaniaethu

Gyda phob math o aflonyddu, mae’n rhaid i’r ymddygiad rydych chi’n cwyno amdano fod yn rhywbeth nad oeddech chi ei eisiau. Mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ymddygiad digroeso’.

Mae hefyd angen i chi ddangos bod y person sydd wedi aflonyddu arnoch yn bwriadu gwneud i chi deimlo mewn ffordd benodol, neu eich bod yn teimlo fel hynny er nad hynny oedd ei fwriad. Gelwir hyn yn ‘ddiben neu effaith’. Os nad oedd y person yn golygu gwneud i chi deimlo fel hyn, mae hefyd yn gorfod bod yn ‘rhesymol’ ei chi deimlo fel hynny.

Mae angen i chi ddangos mai diben neu effaith yr ymddygiad oedd lladd ar eich urddas neu greu amgylchedd a oedd:

  • yn eich sarhau

  • yn eich tramgwyddo

  • yn eich bygwth

  • yn elyniaethus

  • yn eich israddio

Mae’n rhaid i chi ddangos hefyd bod eich sefyllfa yn dod o dan un o’r 3 math o aflonyddu mewn cyfraith wahaniaethu.

Y math cyntaf yw lle'r oedd yr ymddygiad digroeso yn ymwneud â’r ‘nodwedd warchodedig’ berthnasol, fel rhyw neu hil.

Yr ail fath yw lle mae’r ymddygiad digroeso o natur rywiol.

Y trydydd math yw lle’r ydych chi’n cael eich trin yn waeth oherwydd eich bod wedi ymwrthod neu ildio i ymddygiad rhywiol digroeso neu ymddygiad sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd neu ryw. Gelwir hyn yn ‘cael eich trin yn llai ffafriol’.

Nid oes gwahaniaeth os yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atoch chi ai peidio – er enghraifft, os ydych chi’n digwydd clywed y staff mewn asiantaeth gosod tai yn gwneud jôcs neu sylwadau rhywiol wrth ei gilydd.

Edrych i weld yn erbyn pwy allwch chi gymryd camau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud eich bod yn gallu cymryd camau yn erbyn pobl benodol. Mae hyn yn cynnwys eich landlord – gallai hyn hefyd fod yn denant sy’n is-osod ei eiddo i chi.

Gallai hyn fod yn gwmnïau neu bobl sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn pan fyddant:

  • yn gwerthu neu rentu cartref, fel rhentu drwy asiant gosod – gelwir hyn yn ‘ganiatâd i gael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith

  • angen cytuno i werthu neu rentu cartref, fel cydberchennog - gelwir hyn yn ‘ganiatâd i gael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith

  • yn rheoli cartref, fel landlordiaid, asiantau a phobl sy’n casglu rhent – gelwir hyn yn ‘rheoli eiddo’ yn y gyfraith

Os yw gwerthwr tai yn gweithredu ar ran landlord a’i fod wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau yn erbyn y naill a’r llall. Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae’r landlord wedi caniatáu i’r gwerthwr tai ei wneud.

Er enghraifft, efallai y bydd gan landlord amddiffyniad pe bai gwerthwr tai wedi mynd yn groes i gyfarwyddiadau i beidio ag aflonyddu ar bobl.

Mae pwy y gallwch chi gymryd camau yn eu herbyn mewn perthynas â gwerthu, rhentu neu reoli eiddo yn cael ei drafod yn adrannau 33 i 35 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Nid yw Rhan 4 o’r Ddeddf Cydraddoldeb sy’n trafod tai yn cynnwys pob man y gallech chi fod yn byw ynddo. Nid yw’n cynnwys llefydd fel gwestai, cartrefi gwyliau neu garchardai. Os yw’ch problem yn ymwneud ag unrhyw un o’r rhain, edrychwch i weld a allwch chi gymryd camau.

Os yw’ch problem yn gysylltiedig â llety prifysgol, bydd angen i chi gymryd camau yn erbyn gwahaniaethu mewn addysg.

Gweld a yw’n aflonyddu troseddol

Gallai fod yn aflonyddu troseddol ynghyd â gwahaniaethu os yw’ch landlord yn ceisio gwneud eich bywyd yn anodd drwy wneud pethau fel:

  • ymyrryd gyda neu dorri cysylltiad gwasanaethau fel dŵr, nwy neu drydan

  • ymweld â’ch cartref yn rheolaidd yn ddirybudd, yn enwedig fin nos

Cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol neu’r heddlu – gallant gymryd camau yn erbyn eich landlord.

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio iawndal gan ddefnyddio gyfraith aflonyddu arall, sef Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997.

Gallwch gael cymorth gan gynghorydd os nad ydych chi’n siŵr beth ddylech chi ei wneud.

Dylech hefyd roi gwybod i Rhentu Doeth Cymru am eich landlord os yw'n torri’r gyfraith.

Os oes rhywun arall yn aflonyddu arnoch

Os ydych chi’n cael eich trin yn wael gan denantiaid eraill neu gymdogion, gallwch gwyno am eich cymydog.

Efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau yn erbyn darparwyr gwasanaethau os oes rhywun arall sy’n ymdrin â’ch cartref wedi aflonyddu arnoch, er enghraifft:

  • syrfewyr a phriswyr

  • cyfreithwyr

  • benthycwyr morgeisi

Os nad ydych chi’n cael eich amddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Os nad yw’n aflonyddu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallwch dal gwyno am eich landlord preifat neu gwyno am dai cymdeithasol.

Os ydych chi’n credu eich bod yn cael eich amddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Gallwch benderfynu beth i'w wneud am eich problem gwahaniaethu tai.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019