Cael cymorth wrth y gwasanaethau cymdeithasol os ydych chi’n ddigartref
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu dod o hyd i rywle i chi fyw os ydych chi’n ddigartref ac os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed heb deulu y gallwch fyw gyda nhw
rydych chi’n gyfrifol am blentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi
os ydych yn sâl, yn anabl neu ag anghenion iechyd meddwl
rydych rhwng 18 a 25 oed ac yn arfer byw mewn gofal
Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed, gallwch ofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am gymorth ar unwaith.
Os ydych chi dros 18 oed, fel arfer bydd angen i chi ofyn i adran dai eich cyngor lleol am gymorth cyn gofyn am gymorth y gwasanaethau cymdeithasol. Gwiriwch sut i wneud cais digartrefedd i’r adran dai.
Gallwch ofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am gymorth os yw’r adran dai yn penderfynu na fyddan nhw’n rhoi cartref i chi – mae hyn fel arfer oherwydd eu bod yn meddwl eich bod yn fwriadol ddigartref.
Gweld pa gymorth y gallwch ei gael
Mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ymchwilio i'ch sefyllfa i weld beth yw eich anghenion a sut gallan nhw eich helpu. Mae hyn yn cael ei alw’n cynnal ‘asesiad o anghenion’.
Bydd y cymorth y gallech ei dderbyn wrth y gwasanaethau cymdeithasol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gwneud cais am gymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol
Dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol - dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK. Eglurwch eich amgylchiadau a gofynnwch iddyn nhw asesu eich anghenion chi neu anghenion eich teulu o ran tai. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthyn nhw eich bod yn ddigartref. Os oes gennych broblemau iechyd, eglurwch sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.
Nid oes angen i chi wneud cais am gymorth os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol gan y cyngor. Ond mae dal yn werth gwirio y byddan nhw’n cynnal asesiad o anghenion.
Paratoi ar gyfer eich asesiad o anghenion
Mae’n rhaid i’ch asesiad gael ei wneud mewn ffordd addas ar gyfer eich amgylchiadau chi ac amgylchiadau eich plentyn os ydych chi wedi gofyn i’w hanghenion nhw gael eu hasesu. Er enghraifft, gall gael ei wneud drwy’r dulliau canlynol:
cwblhau ffurflen
cyfweliad dros y ffôn
cael cyfarfod wyneb yn wyneb gyda gweithiwr cymdeithasol
Dylech gael tystiolaeth o’ch sefyllfa chi neu sefyllfa eich plentyn os yw eu hanghenion nhw’n cael eu hasesu. Bydd angen i chi anfon y wybodaeth at swyddfa gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol neu fynd â’r dystiolaeth i'r asesiad, os yn bosib. Er enghraifft, gallech gael llythyr wrth eich meddyg neu weithiwr cymorth i esbonio sut byddai peidio â chael cartref yn effeithio arnoch chi a'ch aelwyd.
Gallwch anfon y dystiolaeth at swyddfa eich gwasanaethau cymdeithasol lleol ar ôl yr asesiad os nad yw’r dystiolaeth wrth law cyn hynny.
Fel arfer bydd y gwasanaethau cymdeithasol hefyd yn gofyn i’ch meddyg a phobl eraill sy’n eich adnabod chi am eich anghenion neu anghenion eich plentyn, os ydych chi’n cytuno.
Nid oes dyddiad cau i’r gwasanaethau cymdeithasol gynnal asesiad o anghenion os ydych yn oedolyn, ond dylen nhw roi syniad i chi o ba mor hir y bydd yn ei gymryd.
Os oes angen asesiad arnoch chi ar gyfer eich plentyn neu os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac angen un, dylid ei gynnal o fewn 42 diwrnod gwaith o wneud y cais. Os nad yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn bodloni’r dyddiad cau, rhaid iddyn nhw egluro pam.
Ar ôl yr asesiad, cewch benderfyniad ysgrifenedig yn dweud os all y gwasanaethau cymdeithasol roi cartref i chi.
Os yw’r llety sy’n cael ei gynnig yn anaddas
Eglurwch wrth y gwasanaethau cymdeithasol pam rydych chi’n credu ei fod yn anaddas a gofynnwch am lety arall.
Rhowch unrhyw dystiolaeth iddyn nhw i gefnogi eich achos, er enghraifft llythyr oddi wrth eich meddyg yn egluro y bydd y llety yn niweidiol i’ch iechyd.
Os na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi rhywle arall i chi aros, gallwch herio’r penderfyniad.
Herio penderfyniad y gwasanaethau cymdeithasol
Rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol roi rheswm clir i chi am eu penderfyniad.
Os ydych chi’n anghytuno â’u penderfyniad gallwch gwyno drwy ddilyn gweithdrefn gwyno eich cyngor lleol. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Os nad ydych chi’n hapus o hyd gydag ymateb y gwasanaethau cymdeithasol
Gallwch gymryd camau pellach drwy gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Gwiriwch sut i gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar eu gwefan. ‘Darparwr gwasanaeth cyhoeddus’ yw’r gwasanaethau cymdeithasol.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd camau cyfreithiol mewn rhai achosion lle na fyddai gwneud cŵyn yn briodol. Er enghraifft, os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac yn ddigartref a bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi gwrthod helpu heb reswm da.
Efallai y bydd angen i chi gael cymorth cyfreithiwr i gymryd camau cyfreithiol. Efallai y gallwch chi gael cymorth cyfreithiol – sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor cyfreithiol. Gallwch chi ddod o hyd i gyfreithwyr cymorth cyfreithiol ar GOV.UK. Byddan nhw’n gwirio os ydych yn gallu cael cymorth cyfreithiol.
Mae’n werth chwilio am gyfreithwyr yn y categorïau ‘Tai’, ‘Gofal yn y Gymuned’ a ‘Cyfraith gyhoeddus’. Bydd angen i chi edrych ar wefannau’r cwmnïau cyfreithiol i weld a allan nhw helpu pobl a oedd yn arfer byw mewn gofal, ac efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn.
Adolygwyd y dudalen ar 29 Ionawr 2024