Herio penderfyniad digartrefedd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad y cyngor ynglŷn â’ch cais digartrefedd, fel arfer gallwch chi ei herio drwy ofyn am adolygiad. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’r cyngor edrych ar eu penderfyniad unwaith eto.

Gallwch chi ofyn am adolygiad os yw’r cyngor yn:

  • penderfynu na fyddan nhw’n eich helpu neu’n mynd i roi’r gorau i’ch helpu chi

  • penderfynu nad oes gennych gysylltiad lleol

  • cynnig cartref ar eich cyfer sy’n anaddas yn eich barn chi

Gofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod

Fel arfer, mae’n rhaid i chi ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod o dderbyn eich penderfyniad.

Os oes angen mwy o amser arnoch chi i gasglu tystiolaeth neu gael cymorth gan rywun, dylech ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod. Efallai y byddwch am anfon llythyr byr i ofyn am adolygiad gan ddweud y byddwch yn anfon mwy o wybodaeth yn hwyrach.  Dylai’r cyngor dal edrych ar y wybodaeth rydych chi’n ei hanfon ar ôl y dyddiad cau.

Gofyn am adolygiad ar ôl y dyddiad cau

Mewn rhai achosion, efallai y gallwch ofyn am adolygiad ar ôl y dyddiad cau, ond gall hyn fod yn gymhleth. Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau a’ch bod am ofyn am adolygiad, siaradwch â chynghorydd

Gwneud cais newydd

Os ydych chi wedi colli’r dyddiad cau i ofyn am adolygiad, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais digartrefedd newydd. Dim ond os oes gennych chi rywbeth newydd i'w gynnwys yn y cais y gallwch chi wneud hyn - mae hyn yn golygu naill ai:

  • bod eich sefyllfa wedi newid ers eich cais diwethaf – er enghraifft, os ydych chi wedi cael plentyn

  • mae gennych dystiolaeth newydd ers eich cais diwethaf - er enghraifft, adroddiad meddygol wrth eich meddyg

Dylai’r cyngor adael i chi wneud cais arall os ydych yn cynnwys rhywbeth newydd. Siaradwch â chynghorydd os yw’r cyngor yn gwrthod derbyn eich cais.

Paratoi i ofyn am adolygiad

Fel arfer, bydd y cyngor yn anfon llythyr penderfyniad atoch sy’n egluro eu penderfyniad.

Darllenwch eich llythyr a gwnewch nodyn o unrhyw beth rydych chi’n anghytuno ag ef ac unrhyw beth y mae'r cyngor wedi'i fethu yn eich barn chi. Os gallwch chi, dylech gael tystiolaeth i ddangos eu bod nhw’n anghywir.

Mae sut i baratoi yn dibynnu ar y penderfyniad rydych chi eisiau ei herio. Os gawsoch chi lythyr penderfyniad, dylai ddweud pam gwnaeth y cyngor y penderfyniad.

Gofyn am adolygiad

Gwiriwch eich llythyr penderfyniad. Dylai ddweud wrthych sut i ofyn am adolygiad a dylai gynnwys cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post - gallai hefyd gynnwys rhif ffôn.

Mae’n well ysgrifennu at eich cyngor lleol yngofyn iddyn nhw adolygu eu penderfyniad. Cadwch gopi o'ch llythyr neu e-bost fel tystiolaeth. Cofiwch gael derbynneb i brofi eich bod wedi’i bostio wrth anfon eich adolygiad a’ch tystiolaeth. 

Gallwch hefyd ffonio neu fynd at y cyngor yn bersonol i ddweud wrthyn nhw eich bod am gael adolygiad. Mae'n werth gwneud hyn os ydych chi’n agos at y dyddiad cau ar gyfer adolygiad. Dylen nhw roi cadarnhad i chi eich bod wedi gofyn am adolygiad, er mwyn i chi allu profi hyn nes ymlaen.

Bydd angen i chi ddweud eich bod chi eisiau adolygiad ac esbonio pam rydych chi’n credu y dylai’r cyngor newid eu penderfyniad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud pryd cawsoch eich llythyr penderfyniad a pha benderfyniad rydych chi eisiau iddyn nhw ei adolygu.

Dylech hefyd roi gwybod i'r cyngor os yw eich amgylchiadau wedi newid oherwydd gallai hyn helpu eich adolygiad. Er enghraifft, os yw eich iechyd wedi gwaethygu.

Bydd yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrth y cyngor yn dibynnu ar pam rydych chi’n gofyn am adolygiad.

Mae’n well cael tystiolaeth i gefnogi eich cais am adolygiad. Os ydych chi’n anfon tystiolaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon copïau yn hytrach na dogfennau gwreiddiol.

Os ydych chi’n aros i gael tystiolaeth, mae dal yn bwysig gofyn am yr adolygiad o fewn 21 diwrnod. Gallwch anfon tystiolaeth ar ôl gofyn am adolygiad. Dywedwch wrth y cyngor pryd rydych chi’n credu y byddwch yn gallu anfon eich tystiolaeth a gofynnwch iddyn nhw aros am y dystiolaeth cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad.

Gofyn am rywle i aros yn ystod adolygiad

Efallai y bydd y cyngor yn rhoi cartref i chi wrth iddyn nhw adolygu eu penderfyniad – mae hyn yn cael ei alw’n 'llety tra’n aros am adolygiad'. Os ydych eisoes yn ddigartref neu os yw’r cyngor yn dweud wrthych am adael llety brys, dylech ofyn am lety tra’n aros am adolygiad pan ofynnwch am yr adolygiad.

Os bydd y cyngor yn dweud na fydd yn rhoi llety i chi tra'n aros am adolygiad a'ch bod am herio hyn, siaradwch â chynghorydd.

Cyn i chi gael eich penderfyniad o’r adolygiad

Dylai’r cyngor ysgrifennu atoch gyda’u penderfyniad o fewn 8 wythnos – oni bai eich bod yn cytuno i adael i’r cyngor gael mwy o amser.

Ar ôl gofyn am adolygiad, efallai y bydd y cyngor yn gofyn i chi gwrdd â swyddog tai i roi mwy o wybodaeth.

Dylech chi fynd i’r cyfarfod – dyma’ch cyfle i wneud yn siŵr bod y cyngor yn deall eich sefyllfa’n llawn a pham rydych chi’n anghytuno â’u penderfyniad.

Mae'n werth mynd â chopi arall o'ch tystiolaeth gyda chi - fel y gallwch gyfeirio'n ôl ati os oes angen.

Gallwch fynd â rhywun gyda chi - i gymryd nodiadau, neu dim ond am gefnogaeth.

Gallwch hefyd anfon mwy o wybodaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth at y cyngor ar ôl gofyn am adolygiad. Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch chi i lunio achos ysgrifenedig pellach.

Derbyn penderfyniad yr adolygiad

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad adolygiad y cyngor efallai y gallwch apelio i'r llys sirol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod o dderbyn y penderfyniad.

Dim ond os yw’r cyngor wedi cael y gyfraith yn anghywir neu heb ymchwilio’n briodol y gallwch chi apelio.

Gallwch chi hefyd apelio os bydd y cyngor yn methu'r dyddiad cau i benderfynu ar eich adolygiad. Mae hyn 8 wythnos ar ôl i chi ofyn am yr adolygiad, oni bai eich bod wedi cytuno i roi mwy o amser iddyn nhw. Rhaid i chi apelio o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad cau.

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi eisiau apelio yn erbyn penderfyniad yn y llys sirol.

Gwneud cŵyn i’r cyngor

Ni fydd cwyno fel arfer yn gwneud i’r cyngor newid eu penderfyniad. Gallai wneud iddyn nhw wella eu gwasanaeth, ac efallai y byddan nhw’n rhoi arian i chi fel ymddiheuriad.

Dylech ystyried cwyno os yw'r bobl sy'n delio â'ch cais neu fater digartrefedd wedi ymdrin ag ef yn wael. Efallai eu bod wedi:

Edrychwch sut i gwyno ar wefan eich cyngor – fel arfer, bydd angen i chi wneud cŵyn ysgrifenedig. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gwnewch yn siŵr bod eich llythyr yn esbonio beth wnaeth y cyngor o'i le a beth rydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud – cofiwch gynnwys tystiolaeth i gefnogi eich achos.

Gwneud cŵyn i’r ombwdsmon

Gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus os ydych chi eisoes wedi cwyno wrth eich cyngor lleol a’ch bod naill ai:

  • wedimynd yr holl ffordd drwy weithdrefn gwyno’r cyngor – mae’n cynnwys 2 neu 3 cham fel arfer

  • nid yw’r cyngor wedi eich ateb o fewn 12 wythnos ac nid ydych wedi cytuno i roi mwy o amser iddyn nhw

Mae’r ombwdsmon yn annibynnol a bydd yn archwilio’r achos o’r ddwy ochr i argymell penderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.

Gwiriwch sut i gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar eu gwefan. Bydd eich cyngor lleol yn cael ei restru fel math o ‘ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus’ – efallai y bydd yn cael ei alw’n ‘awdurdod lleol’ hefyd.

Siaradwch â chynghoryddos oes angen help arnoch chi’n cwyno.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 29 Ionawr 2024