Os ydych chi’n ddigartref ac nid yw’r cyngor yn fodlon rhoi cartref i chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os na allwch chi gael cartref wrth y cyngor, mae yna opsiynau eraill y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw er mwyn cael rhywle i fyw. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i rywle y gallwch chi aros ar frys a chartref tymor hwy.

Os yw’r cyngor wedi penderfynu na fyddan nhw’n eich helpu chi a’ch bod yn meddwl y gallen nhw fod yn anghywir, gwiriwch a allwch herio penderfyniad digartrefedd y cyngor.

Cael cymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol

Efallai y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu dod o hyd i rywle i chi fyw os ydych chi’n ddigartref a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac heb deulu y gallwch fyw gyda nhw

  • rydych chi’n gyfrifol am blentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi

  • os ydych chi’n sâl, yn anabl neu ag anghenion iechyd meddwl

  • rydych chi rhwng 18 a 25 oed ac yn arfer byw mewn gofal

Gwiriwch os gallwch chi gael cymorth digartrefedd oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol.

Os oes angen rhywle i aros ar frys arnoch chi

Bydd angen i chi ystyried aros mewn lle dros dro os nad oes gennych chi unrhyw le i aros heno.

Mae’n werth gofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a allwch chi aros gyda nhw tra byddwch chi’n dod o hyd i rywle.

Efallai y byddwch chi’n gallu cael lle i aros mewn hostel, lloches nos, lloches neu wely a brecwast. Gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am fanylion cyswllt llefydd i aros. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Fel arfer bydd angen i chi gael eich atgyfeirio at hostel neu loches nos gan asiantaeth gynghori neu gymorth. Siaradwch â chynghorydd i weld os ydyn nhw’n gallu eich atgyfeirio. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu rhoi cyngor a manylion mathau eraill o gymorth i chi, er enghraifft prydau poeth a chawod.

Bydd rhai llefydd yn gadael i chi alw neu gerdded i mewn i gadw lle - mae'n well ffonio yn gyntaf i weld a allwch chi ymweld i gadw lle.

Mae dal angen i chi dalu rhent os ydych chi’n aros mewn hostel, lloches nos neu loches. Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai i’ch helpu i dalu’r rhent - gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu derbyn.

Dod o hyd i gartref tymor hwy

Gall cael cartref tymor hwy gymryd amser hir, felly mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi dod o hyd i le dros dro yn gyntaf.

Fel arfer, dod o hyd i dŷ rhent preifat yw’r ffordd gyflymaf o gael cartref tymor hwy. Gall fod yn anodd dod o hyd i dai fforddiadwy mewn rhai ardaloedd felly mae’n werth chwilio mewn sawl lle.

Os ydych chi ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau gallwch gael cymorth gyda’ch chostau rhentu preifat. Mae hyn yn cynnwys cael cymorth i dalu blaendal.

Gallwch hefyd wirio os gallwch chi wneud cais am dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai.Dyma’r ffordd orau o gael cartref fforddiadwy – mae’n debygol o fod yn rhatach na rhentu’n breifat ac yn cynnig mwy o sicrwydd.

Efallai y gallwch chi wneud cais hyd yn oed os nad oedd eich cyngor lleol yn gallu rhoi cartref dros dro i chi pan wnaethoch chi gais am gymorth digartrefedd.

Fel arfer byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros pan fyddwch chi’n gwneud cais - gall gymryd amser hir i gyrraedd top y rhestr. Gallwch weld sut mae rhestr aros eich cyngor lleol yn gweithio ar eu gwefan – chwiliwch am ‘polisi dyraniadau’. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gwneud cais am grant elusennol

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am grant elusennol i’ch helpu i gael rhywle i fyw. Darllenwch wybodaeth am grantiau elusennol ar wefan Turn2Us.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 29 Ionawr 2024